YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL
MEHEFIN 2024
|
YMWELIADAU MEWNOL |
|
|
12 Mehefin
|
Ymweliad Llysgennad yr UE i’r DU â Chymru Ymwelodd Llysgennad yr UE â Chymru yng nghwmni Llysgennad Awstria ac Uchel Gomisiynydd Cyprus. Yn ystod ei ymweliad gwnaeth gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Trafodwyd yn ystod y cyfarfodydd hyn y berthynas economaidd rhwng Cymru a'r UE, dinasyddion yr UE yng Nghymru, heriau ers Brexit, Cytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE, ffynonellau cyllidi i gymryd lle rhai’r UE, Taith, Horizon Europe, yr economi gylchol, polisi amaethyddol ar ôl Brexit, llywodraethu amgylcheddol, sero net a’r newid yn yr hinsawdd.
|
|
YMWELIADAU ALLANOL |
|
|
05 Mehefin
21 Mehefin |
Ymweliad Prif Weinidog Cymru â Normandi Teithiodd Prif Weinidog Cymru i Normandi er mwyn nodi pedwar ugain o flynyddoedd ers D-Day ac er mwyn cyfarfod â chyn-filwyr Cymreig
Ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Gymraeg ag Ynys Manaw ar gyfer BIC Teithiodd Gweinidog yr Economi a'r Gymraeg i Ynys Manaw ar gyfer 41ain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Trafododd yr Uwchgynhadledd ystod o ddatblygiadau gwleidyddol ac economaidd ar draws y gweinyddiaethau gan gynnwys gwahanol ffyrdd y mae gweinyddiaethau'n datblygu mentrau i wireddu cyfleoedd ynni adnewyddadwy i ysgogi twf economaidd a chefnogi ymdrechion datgarboneiddio.
|